To read this page in English please click here.
Oriau gweithio
Mae’r ganolfan gyswllt wedi’i lleoli ar safle DVLA Bro Tawe yn Llansamlet, ychydig funudau o’r M4. Mae’n gweithredu rhwng 8am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 2pm ar ddydd Sadwrn. Gall patrymau sifft o fewn yr oriau gwaith hyn gynnig hyblygrwydd ardderchog i weddu i ystod eang o ffyrdd o fyw a diddordebau.
Darperir hyfforddiant llawn
Fel Cynghorydd Teleffoni sydd newydd ddechrau, byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr sy’n cynnwys:
- technegau trin galwadau
- sut i ateb ymholiadau cyffredin cwsmeriaid a rhoi cyngor i gwsmeriaid
- sut i brosesu trafodion, megis amnewid trwydded yrru goll
- cymorth un wrth un a grŵp gan hyfforddwyr ac arweinwyr profiadol
- adolygiadau wythnosol i fonitro cynnydd
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Mae’n hanfodol eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio systemau TG lluosog, gan y bydd angen ichi lywio’r rhain ar sgriniau deuol wrth ateb ymholiadau. Nid oes angen unrhyw brofiad na chymwysterau blaenorol arnoch i ymuno â ni – byddwn yn eich hyfforddi i ddatblygu sgiliau a thechnegau gwasanaeth cwsmeriaid arloesol. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn chwaraewr tîm gweithgar, gwydn sy’n frwdfrydig ac yn angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol.
Yr amserlen recriwtio
Gwiriadau cyn cyflogaeth
Gall ein gwiriadau cyn cyflogaeth gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith. Er mwyn inni allu cynnal y gwiriadau hyn, bydd angen ichi ddod â’ch Dogfennau Adnabod (ID) i’n swyddfa. Cyfeiriwch at y canllaw hwn sy’n esbonio’r math o ID y gallwn ei dderbyn.