To read this page in English please click here.

Am Ganolfan Gyswllt DVLA

Mae ein canolfan gyswllt sydd wedi ennill gwobrau yn chwarae rôl ganolog yng Nghyfarwyddiaeth Weithredol a Gwasanaeth Cwsmeriaid (OCSD) gan ei bod yn llinell flaen ar gyfer cwsmeriaid yn cysylltu, gan ateb mwy na 18 miliwn o alwadau ffôn bob blwyddyn. Ac, nid yw ein canolfan yn cymryd galwadau yn unig, rydym hefyd yn ddarparwr gwasanaeth amlsianel sy’n ymateb i dros 600,000 o negeseuon e-bost a gwesgyrsiau ac yn delio â dros 1 biliwn o ymholiadau ar-lein bod blwyddyn hefyd.

Am y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael ein hachredu gan y Gymdeithas Cysylltu â Chwsmeriaid – ar hyn o bryd ar Safon Fyd-eang 8. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cael ein cydnabod gan gorff proffesiynol am y profiad cwsmeriaid neilltuol rydym yn ei ddarparu, rhywbeth rydym yn eithriadol o falch ohono. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol yw mai ni yw’r sefydliad cyntaf mewn gwirionedd i fynd trwy’r achrediad lefel 8, sef y lefel uchaf y gellir ei chyflawni.

Ein pobl

Mae gennym dros 800 o Gynghorwyr Teleffoni yn gweithio yn ein canolfan i’n cwsmeriaid sy’n bwynt cyswllt cyntaf i’n cwsmeriaid. Yn gryno, maen nhw’n gyfrifol am gael gyrwyr a cherbydau wedi’u trethu ac ar y ffordd mor syml, diogel ac effeithlon â phosibl. Mae rhai agweddau eraill o’r rôl yn cynnwys:

  • ymgysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol, gan ddefnyddio erthyglau gwybodaeth i ddarparu cyngor
  • cipio gwybodaeth cwsmeriaid mewn ffordd gywir ac amserol ar y systemau perthnasol
  • cysylltu â chydweithwyr mewnol o bob rhan o DVLA i helpu datrys ymholiad cwsmer yn ôl y gofyn
  • prosesu taliadau cwsmeriaid, gan sicrhau bod achosion yn cael eu diweddaru’n gywir

Rydym yn rhedeg cynlluniau Cynghorwyr Teleffoni lluosog bob blwyddyn – gallwch gael ragor o wybodaeth am y rôl a’r broses recriwtio yma.

Camu ymlaen yn fewnol

Os ydych yn chwilio am yrfa yn DVLA, y ganolfan gyswllt yw’r lle perffaith i ddechrau. Oeddech chi’n gwybod  bod y rhan fwyaf o’n harweinyddion timau presennol wedi cychwyn eu teithiau fel Cynghorwyr Teleffoni?

Os oes gennych ddiddordeb mewn llwybr gwahanol, mae gennym hefyd feysydd cymorth lluosog gan gynnwys hyfforddiant, cymorth busnes a pherfformiad gwasanaeth, sydd oll yn chwarae rôl hanfodol mewn sicrhau bod ein canolfan yn gweithredu i’r safon uchaf.

Felly, os oes gennych yr egni a’r penderfyniad, byddwn yn darparu cyfleoedd diddiwedd ichi i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

Beth sydd yn hyn i mi?

Rydym yn cynnig amrediad o fuddion trwy weithio yn ein canolfan gyswllt, gan gynnwys:

  • Cyflog ardderchog – £22,497 yn seiliedig ar oriau llawn amser (pro-rata ar gyfer cydweithwyr rhan-amser).
  • Gwyliau Blynyddol – 25 diwrnod y flwyddyn, gan gronni diwrnod ychwanegol o wyliau fesul blwyddyn o wasanaeth, hyd at 30 diwrnod (pro-rata ar gyfer cydweithwyr rhan-amser)
  • Hyblyg – Gallwch ennill amser ‘hyblyg’ trwy weithio 15 munud ychwanegol cyn eich sifft, a/neu ar ôl eich sifft, yn dibynnu ar alw ac adnoddau teleffon. Gallwch gymryd yr amser hwn yn ôl yn ogystal â’ch gwyliau blynyddol (yn amodol ar anghenion ac argaeledd busnes, mae amodau’n gymwys)
  • Hyfforddiant – Bydd ein timau profiadol ac sydd wedi ennill gwobrau yn darparu hyfforddiant llawn i chi, gan gwmpasu’r systemau y byddwch yn eu defnyddio, gwybodaeth i gyflawni’r rôl a phecyn gwasanaeth cwsmer cynhwysfawr sy’n cael ei ddiweddaru’n barhaus ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol.
  • Datblygiad a chefnogaeth – Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn, felly byddwch yn derbyn sesiynau un i un misol sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer eich datblygiad personol eich hun
  • Ein diwylliant – mae’r ganolfan gyswllt yn lle prysur, cyfeillgar a bywiog i weithio. Pan ofynnir beth mae ein cydweithwyr yn ei werthfawrogi fwyaf, cwmnïaeth y tîm a’r awyrgylch teuluol sy’n dod yn uchaf bob tro.
  • Cydnabyddiaeth – Mae ein Cyfarwyddiaeth Weithredol a Gwasanaeth Cwsmeriaid yn rhedeg cynllun Gwobrwyo yn y flwyddyn sy’n galluogi cydweithwyr i gael eu cydnabod am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud.
  • Elusen – Rydym yn cymryd ymagwedd weithredol at godi arian ar gyfer elusen o ddewis DVLA am y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod digon o weithgareddau hwyliog bob amser i gymryd rhan ynddynt o gystadlaethau i werthu cacennau a rafflau – mae’r rhestr yn parhau!
  • Pensiwn – Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig cynllun pensiwn cystadleuol iawn. Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar wefan cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
  • Lleoliad – Mae’r ganolfan gyswllt gwbl fodern wedi’i lleoli ar hyn o bryd yng Nghwm Tawe ac mae o fewn pellter cerdded i amwynderau amrywiol fel siopau a mannau bwyd. Mae nifer o lwybrau cerdded wedi’u lleoli o gwmpas y safle, sy’n cynnig y cyfle i chi werthfawrogi rhywfaint o’r golygfeydd trawiadol sydd gan Abertawe i’w cynnig – gwiriwch eich taith i’r gwaith ar-lein.

Grwpiau Rhwydwaith Staff

Rydym yn credu’n gryf mewn cael gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin ag urddas a pharch. Mae ein Grwpiau Rhwydweithio Staff yn cael eu harwain gan ein cydweithwyr ac yn darparu cymorth i bawb sy’n gweithio yn DVLA. Eu nod yw dylanwadu’n gadarnhaol ar yr amgylchedd gwaith, gan greu diwylliant o gynwysoldeb i bawb.

Oriau Gwaith

Mae’r ganolfan gyswllt wedi’i lleoli yn safle Cwm Tawe’r DVLA yn Llansamlet, dim ond munudau o’r M4. Mae’n gweithredu rhwng yr oriau 8am i 7pm, dydd Llun i ddydd Gwener ac 8am i 2pm ar ddydd Sadwrn. Mae patrymau sifft o fewn yr oriau gwaith hyn yn gallu cynnig hyblygrwydd ardderchog i gydweddu ag amrediad eang o ffyrdd o fyw a diddordebau gwahanol.

Darperir Hyfforddiant Llawn

Fel Cynghorwr Canolfan Gyswllt wedi’i gofrestru o’r newydd byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn, fydd yn cynnwys:

  • Technegau trafod galwadau
  • Sut i ateb ymholiadau cyffredin gan gwsmeriaid a darparu cyngor i gwsmeriaid
  • Sut i brosesu trafodion, megis anfon trwydded yrru newydd yn lle un sydd wedi mynd ar goll
  • Cymorth un i un a grŵp gan hyfforddwyr a rheolwyr profiadol
  • Adolygiadau wythnosol i fonitro cynnydd

Barod i ymgeisio?

I weld pob un o swyddi gwag DVLA ar hyn o bryd a chofrestru i rybuddion am swyddi ewch i Swyddi’r gwasanaeth Sifil yma: